Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

Ymchwiliad i Hepatitis C

Inquiry into Hepatitis C

HSCS(5) H01

Ymateb gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Evidence from Community Pharmacy Wales

Rhan 1:  Cyflwyniad

Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW) yn cynrychioli fferylliaeth gymunedol ar faterion GIG ac yn ceisio sicrhau bod y gwasanaethau gorau bosib, wedi’u darparu gan gontractwyr yng Nghymru, ar gael drwy GIG Cymru. Dyma’r corff sy’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn unol ag Adrannau 83 ac 85 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 fel cynrychiolwyr rheiny sydd yn darparu gwasanaethau fferyllol.

Fferylliaeth Gymunedol Cymru yw’r unig gorff sy’n cynrychioli bob fferyllfa gymunedol yng Nghymru. Mae’n gweithio gyda Llywodraeth a’i asiantaethau, megis Byrddau Iechyd lleol, i ddiogelu a datblygu gwasanaethau GIG o’r radd flaenaf trwy’r fferyllfa ac i siapio’r cytundeb fferyllfa gymunedol a’i reoliadau perthnasol, er mwyn cyrraedd y safon uchaf o iechyd cyhoeddus a’r canlyniadau gorau bosib i gleifion. Mae CPW yn cynrychioli pob un o’r 716 fferyllfa gymunedol yng Nghymru. Mae fferyllfeydd wedi’u lleoli ar strydoedd fawr, yng nghanol trefi a phentrefi led led Cymru ynghyd a chanol dinasoedd mawr a pharciau manwerthu.

Ynghyd a dosbarthu presgripsiynau, mae fferyllfeydd cymunedol Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau i gleifion ar ran GIG Cymru. Mae’r gwasanaethau GIG Cymru wyneb i wyneb ar gael gan fferyllwyr cymwysedig 6, ac weithiau 7, diwrnod yr wythnos, yn cynnwys gwasanaethau Adolygu'r Defnydd o Feddyginaethau, Atal Cenhedlu Brys, adolygiad o feddyginiaethau wrth ryddhau, gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, brechiad rhag y ffliw, Cyflenwad Meddyginiaeth Gofal Lliniarol, Cyflenwad ar frys, camddefnyddio sylweddau a’r gwasanaeth Man Anhwylderau.

Mae CPW yn falch iawn o’r cyfle i ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad undydd ar Hepatitis C sy’n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Rhan 2:  Darpariaeth o’r gofynion wedi’u cynnwys yn WHC/2017/048

Mae’r cais am wybodaeth gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cyfeirio at yr hyn sy’n cael ei wneud i ymateb i ofynion Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2017/048 Cyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis (B ac C) fel bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd.

Ar sawl achlysur yn y gorffennol, mae CPW wedi datgan i Lywodraeth Cymru a’i byrddau iechyd, dyhead i symud oddi wrth wasanaethau syml darparu ac arolygu sy’n cael eu comisiynu ar hyn o bryd i wasanaethau mwy cynhwysfawr sydd wedi eu dylunio i ymateb i anghenion defnyddwyr cyffuriau.

Yn unol ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus a’r cyfeiriad mae gwasanaethau GIG yng Nghymru yn teithio ynddo, hoffai CPW gweld dull ‘un i Gymru’ yn nyluniad a chomisiynu gwasanaethau defnyddwyr cyffuriau gan fferyllfeydd cymunedol sy’n defnyddio hygyrchedd y rhwydwaith fferyllfa gymunedol a sgiliau’r tîm fferyllfa yn well. 

Mae’r aelodau hynny o’r boblogaeth sy’n ddefnyddwyr cyffuriau yn aml yn wael am ymwneud gyda’r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol ac mae CPW felly’n awgrymu’n gryf ei fod yn bwysig i ‘wneud pob cysylltiad cyfrif’ ac felly dylai gwasanaeth cefnogi cynhwysfawr bod ar gael ym mhob lleoliad lle mae yno gyswllt gyda’r grŵp bregus hyn ac mae hynny’n cynnwys y gymuned fferyllol.

Mae fferyllfeydd cymunedol sy’n darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr cyffuriau wedi datblygu perthynas ac ymddiriedolaeth gyda’r unigolion hyn ac mae’r sail yno felly i ddarparu rhagor o gefnogaeth trwy brofi am a thrin hepatitis. Mae llythyr y Prif Swyddog Meddygol yn Hydref 2017 yn llwyr gydnabod dylai “profion ar gyfer yr unigolion hyn a thriniaeth cael ei darparu mewn lleoliad ac amgylchedd sy’n gyfarwydd ac maen nhw'n gyfforddus ynddi, ac yn debygol o fynychu a derbyn triniaeth ganddynt.”

Nid yw’n hawdd perswadio'r rheini sydd fwyaf mewn perygl o haint hepatits i gael eu profi ac yn aml yn cymryd sawl drafodaeth dros gyfnod o amser gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn bod y cleient yn gyfforddus cael prawf. Felly dylai gwasanaeth hepatits cael ei ddylunio o amgylch gofal cleient ac nid cael ei gomisiynu ar sail weithrediadol ‘eitem o wasanaeth’. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru a’i Byrddau Iechyd yn cydnabod yr her daw gydag ymgysylltu a bod disgwyliadau yn cael eu teilwra’n briodol.

Mae’r datblygiad o feddyginiaeth newydd, gwrth-feirysol sy’n ymateb yn uniongyrchol wedi chwyldroi’r driniaeth o hepatitis C ac felly nid oes rwystrau, heb law am rheiny sydd wedi cael eu rhoi mewn lle can comisiynwyr, i driniaeth cael i gynnal mewn fferyllfa gymunedol yn dilyn canlyniad positif i brawf.

Hoffai CPW sicrhau bod Gwasanaeth Hepatits Fferyllfa Gymunedol genedlaethol, hyblyg a chynhwysfawr mewn lle sy’n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cyd-gynhyrchu a darparu gwasanaeth sy’n ymateb i’r cleient yn y modd gorau bosib. 

Er enghraifft, dylai cleient gallu cael eu profi mewn fferyllfa, cymryd prawf eu hunain mewn fferyllfa, mynd a phrawf i ffwrdd efo nhw a’i ddychwelyd yn ddiweddarach neu fynd a phrofion gyda nhw ar gyfer partneriaid, aelodau teulu a ffrindiau maent yn credu gall fod mewn peryg o ddod i gysylltiad â hepatitis. Dylai unrhyw un sy’n cael canlyniad positif cael y dewis os ydynt eisiau cael eu trin yn y fferyllfa neu gael eu cyfeirio at eu GP/clinig iechyd rhywiol lleol. 

Tra byddai CPW yn gefnogol o wasanaethau hepatitis ar gael o bob fferyllfa sy’n darparu offer pigiad di-haint a/neu wasanaeth chwistrellu dan oruchwyliaeth mae’n holl bwysig nad yw’r hyrwyddiad o’r gwasanaethau hyn yn gyfyngedig i ddefnyddwyr gwasanaeth presennol. Dylai bod y rheini sydd ddim yn ymgysylltu gyda’r gwasanaethau yn gyfredol, megis y digartref a gweithwyr rhyw, yn cael eu hysbysu bod eu fferyllfa gymunedol yn darparu gwasanaeth galw i mewn, profion a thriniaeth. Mae’n bwysig bod holl weithwyr gofal hefyd yn ymwybodol eu bod yn gallu cyfeirio unigolion mewn perygl i fferyllfa gymunedol am gefnogaeth.

Hoffai CPW hefyd gweld trefniadau yn eu lle i annog nyrsys firysau gludir yn y gwaed lleol i weithio mewn partneriaeth gyda fferyllfeydd cymunedol enwebedig fel eu bod yn gallu gweithio ar y cyd i ateb gofynion y boblogaeth leol. Felly, mae CPW yn awgrymu bod y Cynllun Fferyllfa Gymunedol Gweithio ar y Cyd yn cael ei ymestyn i gynnwys nyrsys firysau gludir yn y gwaed lleol.

Mae CPW hefyd yn cydnabod twf yn chwistrelliad cyffuriau ymysg grwpiau o bobl sy’n gwneud hynny er mwyn gwella eu hedrychiad neu berfformiad (IPED). Mae hwn yn prif grwp dylai cael ei dargedu fwy os bydd targedau Sefydliad Iechyd y Byd yn cael eu cyrraedd yng Nghymru. Byddai CPW yn awgrymu bod posteri yn cael eu rhoi fyny ym mhob gym, clwb chwaraeon a salon lliw haul er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r perygl o gontractio hepatitis, y ffaith bod triniaethau modern yn effeithlon ac yn hawdd i’w defnyddio ac i hyrwyddo gwasanaeth galw mewn am gyngor, profion a thriniaeth mewn fferyllfa leol.

Mae CPW yn falch bod yna ymgysylltiad wedi bod gyda dau fwrdd iechyd blaenllaw ar ddyluniad gwasanaeth cefnogi fferyllfa leol. Ond, hoffem weld cyflwyniad yn cael ei wella a’r gwasanaeth yn cael ei ddylunio i fod yn wasanaeth ehangach a gynhwysfawr wedi ei gefnogi gan farchnata lleol. Mae’r gwasanaeth sydd wedi ei ddylunio ar gyfer treial yn wasanaeth prawf a chyngor yn unig gyda thriniaeth yn cael ei hatal gan rwystrau gweithredol sydd angen cael eu goresgyn ar frys, os yw capasiti’r rhwydwaith fferyllfa gymunedol i gael ei ddefnyddio i gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd.

Rhan 3: Casgliad

Mae CPW yn credu bod ymgysylltiad effeithiol y rhwydwaith fferyllfa gymunedol i ddarparu Gwasanaeth Cyngor, Prawf a Thriniaeth Hepatitis Fferyllfa Gymunedol yn helpu Llywodraeth Cymru gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn ddileu hepatitis fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd.

Mae CPW yn parhau i fod yn ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’i Byrddau Iechyd i roi’r trefniadau hyn yn eu lle.